age advocacy service

advocacy service

Independent Professional Advocacy

Can we help?

Age Connects Cardiff & the Vale provides Independent Professional Advocacy (IPA) in care homes and community settings. If you are over 60 years old, living in Cardiff or the Vale of Glamorgan, you may be eligible to access this service.

advocacy service

Advocacy is taking action to support people to say what they want, secure their rights, pursue their interests, and obtain the services they need. This can include things such as support with a social services care and assessment review.

We will work with you to understand your situation, develop options with you and help you decide what you want to do. We provide advocacy in line with the principles set out in the Advocacy Charter. We will:

  • Be clear about our purpose
  • Remain independent
  • Maintain confidentiality
  • Be led by the people we support
  • Empower through voice, choice and control
  • Promote equality and diversity
  • Be accessible
  • Be accountable
  • Safeguard people
  • Support our Advocates

For an easy read version of the Charter please follow this link below

Click here

Our qualified Advocates visit care homes across Cardiff & the Vale of Glamorgan on a regular basis, speaking to residents and attending relatives’ meetings. They can take referrals directly from residents themselves or care home staff. Alternatively, referrals can be made via the Cardiff & Vale Advocacy Gateway (CVAG) on 0808 801 0577.

Community advocacy can similarly be accessed via the CVAG or by contacting Age Connects as follows: Cardiff residents - 029 2068 3683. Vale residents – 01446 795632.

Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol

Allwn ni helpu?

Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn darparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol mewn cartrefi gofal a lleoliadau cymunedol. Os ydych chi dros 60 oed, yn byw yng Nghaerdydd neu ym Mro Morgannwg, efallai eich bod chi’n gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

advocacy service

Mae eiriolaeth yn golygu gweithredu i gefnogi pobl i ddweud beth yw eu dymuniadau, sicrhau eu hawliau, dilyn eu diddordebau, a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Gall hyn gynnwys pethau fel cymorth gydag adolygiad gofal ac asesu gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddeall eich sefyllfa, datblygu opsiynau gyda chi a’ch helpu chi i benderfynu beth rydych chi eisiau ei wneud. Rydyn ni’n darparu eiriolaeth yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y Siarter Eiriolaeth. Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • Bod yn glir ynghylch ein pwrpas
  • Aros yn annibynnol
  • Cadw cyfrinachedd
  • Cael ein harwain gan y bobl rydyn ni’n eu cefnogi
  • Grymuso drwy lais, dewis a rheolaeth
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Bod yn hygyrch
  • Bod yn atebol
  • Diogelu pobl
  • Cefnogi ein heiriolwyr

I gael fersiwn hawdd ei darllen o’r Siarter, dilynwch y ddolen isod

Cliciwch yma

Mae ein heiriolwyr cymwys yn ymweld â chartrefi gofal ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn rheolaidd, gan siarad â phreswylwyr a mynychu cyfarfodydd â pherthnasau. Maen nhw’n gallu cymryd atgyfeiriadau’n uniongyrchol gan y preswylwyr eu hunain neu gan staff y cartref gofal. Fel arall, gellir gwneud atgyfeiriadau drwy Borth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro ar 0808 801 0577.

Yn yr un modd, gellir cael gafael ar eiriolaeth gymunedol drwy Borth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro neu drwy gysylltu ag Age Connects fel a ganlyn: Preswylwyr Caerdydd - 029 2068 3683. Preswylwyr Bro Morgannwg – 01446 795632.